Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i wrthdrawiad yn ymwneud â thractor ar dir amaethyddol ger Corwen neithiwr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig wedi 8yh nos Sul, Medi 18.

Roedd y ddynes wedi marw yn y fan a’r lle.

Mae’r gweithgor iechyd a diogelwch a’r Crwner wedi’u hysbysu.