Fe fu’n rhaid achub dau ddyn oddi ar draeth Pen Pyrod ym Mhenrhyn Gŵyr brynhawn dydd Sadwrn.

Aeth y ddau – sydd yn eu 20au – i drafferthion wrth iddyn nhw geisio croesi’r traeth wrth i’r llanw ddod i mewn.

Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw am oddeutu 4.30pm, ond ni chafodd y ddau eu hanafu.