Mae Cymdeithas yr Iaith wedi gofyn ai dogfen yn unig fydd Strategaeth Iaith Sir Gâr, neu a fydd y Cyngor Sir yn ei gweithredu.
Cafodd y sylwadau eu gwneud fore Sadwrn mewn cyfarfod arbennig – Tynged yr Iaith Sir Gâr – fore Sadwrn.
Wrth annerch y cyfarfod dywedodd Sioned Elin, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin: “Rydyn ni’n ddiolchgar i swyddogion a chynghorwyr am fod gyda ni heddiw i drafod y strategaeth – a bod strategaeth o gwbl.
“Dyma fydd yn gosod llwybr y Gymraeg yn y sir am y pum mlynedd nesaf ac er bod yr amcanion oll yn anelu at wneud y Gymraeg yn brif iaith y sir eto, does dim cynllun gweithredu i wireddu hynny.
“Heb gynllun mae perygl mai dim ond strategaeth ar bapur fydd gyda ni.
“Rydyn ni hanner ffordd at y Cyfrifiad nesaf, os nad ydyn ni am weld mwy fyth o ddirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir mae angen cynllun gweithredu ac amserlen glir ar gyfer ei weithredu.”
Y cyfarfod y bore ma oedd y diweddaraf mewn cyfres o gyfarfodydd Tynged yr Iaith Sir Gâr, sydd wedi eu trefnu gan Gymdeithas yr Iaith i geisio eglurdeb ar gynllun gweithredu strategaeth bum mlynedd y Cyngor o ran y Gymraeg.
Daw’r strategaeth mewn ymateb i ganlyniadau’r Cyfrifiad yn 2011 lle bu cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir.
Bydd strategaeth drafft yn cael ei gyflyno i Fwrdd Gweithredol y Cyngor i’w dderbyn yn derfynol ar Hydref 17.