Safle'r Wylfa Newydd
Yn dilyn pryderon nad yw Cyngor Môn yn gwneud digon i ddiogelu’r Gymraeg rhag effeithiau posib y cynllun i godi atomfa niwclear Wylfa Newydd, mae aelod o gabinet y Cyngor wedi taro nôl.

Yn ôl y Cynghorydd Hywel Eifion Jones, “does dim bai ar y pwyllgor gwaith na’r Cyngor” am y pryderon ynghylch yr iaith.

Ychwanegodd mai gyda Horizon, y cwmni sydd eisiau codi’r atomfa, y mae’r “cyfrifoldeb” am yr effaith bosib ar y Gymraeg. Mae Cyngor Môn eisoes wedi rhoi pwysau ar y cwmni i ddiogelu’r iaith, yn ôl Hywel Eifion Jones.

Ddoe fe wnaeth William Hughes, aelod o grŵp gwleidyddol mwya’r cyngor sir, ymddiswyddo am nad oedd yn credu bod yr awdurdod yn gwneud digon i ddiogelu’r Gymraeg rhag cael ei heffeithio gan atomfa newydd fydd angen 10,500 o weithwyr i’w chodi.

Y pryder yw y daw miloedd i’r ynys a niweidio’r Gymraeg.

“Rhoi pwysau” ar Horizon

Tra’n cydnabod bod yna bryder yn y Cabinet dros effaith Wylfa Newydd ar y Gymraeg, mae Hywel Eifion Jones yn mynnu eu bod nhw “wedi rhoi pwysau ar Horizon i newid y cynllun”.

“Roeddwn i’n meddwl eu bod nhw wedi ymddiheuro am y ffordd maen nhw wedi ymateb,” meddai dros fwriad Horizon ddechrau’r mis i ddileu amod iaith yng Nghynllun Datblygu Lleol yr Ynys.

“Rydan ni’n meddwl bod y pwysau rydyn ni wedi’i rhoi arnyn nhw wedi [golygu] eu bod nhw wedi newid eu hagwedd.

“Felly dw i’n gweld hynny’n llwyddiant i raddau ac fe wnawn ni barhau i roi pwysau arnyn nhw.”

Ychwanegodd nad oedd neb o’r grŵp gwleidyddol ar y Cyngor yn “cyd-fynd” gyda’r Cynghorydd William Hughes.

“Dw i newydd fod mewn cyfarfod bore ‘ma a does ‘na neb yn cyd-fynd efo fo,” meddai.

10,500 o weithwyr

Ar ei anterth, mae disgwyl y bydd 10,500 o weithwyr ar safle’r Wylfa Newydd, ac mae ymgyrchwyr lleol yn poeni y byddai cael cymaint o weithwyr yn symud i’r ardal yn niweidio’r Gymraeg.

Dechrau’r mis, dywedodd llefarydd Horizon wrth golwg360 mewn datganiad mai dim ond am dri mis tua diwedd 2022 y bydd nifer y gweithwyr ar ei anterth, ac y bydd y “ffigwr hwn yn gostwng yn raddol mor gynnar â dechrau 2023 ymlaen”.

Mae Horizon yn mynnu y bydd cynllun Wylfa Newydd yn dod â “buddiannau hirdymor sylweddol i’r Gymraeg” yn ystod y 60 mlynedd y bydd yr atomfa’n weithredol.