Y diweddar Arglwydd Cledwyn o Benrhos (Llun: Bassano trwy Wikipedia)
I’r diweddar wleidydd Llafur y byddai heddiw wedi bod yn ganfed pen-blwydd iddo, y mae’r diolch fod ganddon ni Gynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd a sianel deledu Gymraeg, meddai cofiannydd a fydd yn traddodi darlith ar fywydd Cledwyn Hughes yn Sir Fôn heno.

Y Parchedig Ddoctor D Ben Rees, sydd wedi byw y rhan fwyaf o’i fywyd yn weinidog yn Lerpwl, fydd yn traddodi’r ddarlith am y dyn “sensitif, caredig a rhadlon” a ddaeth yn Arglwydd Cledwyn o Benrhos ac a fu’n ymgyrchu am Senedd i Gymru ers y 1950au.

“Cafodd e siom fawr yn y refferendwm cyntaf (1979), roedd e’n un o’r rhai a oedd yn ymgyrchu am Senedd i Gymru yn y 50au, wedyn mi ddaliodd ati gyda’r syniad o Gynulliad” meddai D Ben Rees wrth golwg360.

“Pan fuodd farw yn 2001, roedd Rhodri Morgan (cyn-Brif Weinidog Cymru) wedi dweud, ‘oni bai am Cledwyn, fydden i ddim yn y swydd ydw i ynddo erbyn heddiw’. Roedd e’n agos iawn i’w le yn hynny o beth.”

“Cam” gan Gymdeithas yr Iaith

Mae D Ben Rees, awdur cofiant Cledwyn, yn dweud iddo fod yn “allweddol” wrth geisio perswadio’r Llywodraeth Geidwadol ar y pryd i sefydlu S4C, a’i fod ef a Gwynfor Evans wedi tyfu’n “dipyn o ffrindiau”.

Yn ystod cyfnod Cledwyn Hughes yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru (1966-68), mae D Ben Rees o’r farn iddo gael “ychydig bach o gam” gan Gymdeithas yr Iaith, am ei bod yn “disgwyl gormod” ganddo adeg sefydlu Mesur yr Iaith Gymraeg yn 1967.

“Doedd hwnnw (y Mesur) ddim yn ddelfrydol o bell ffordd, ond roedd e’n gorfod cymrodeddu,” meddai.

“Roedd llawer iawn o Gymry a charedigion yr iaith yn disgwyl llawer oddi wrtho fe a wnaeth e ddim llwyddo i wneud be fyddai e wedi llwyddo i wneud mewn cyfnod gwahanol.

“Roedd e’n ddyn mor rhadlon, mor braf a charedig ac eisiau helpu pawb, felly pan oedd rhywun yn troi mewn protest, doedd hynny ddim yn dderbyniol o bell ffordd gydag e.”

Er mai o deulu Rhyddfrydol yr oedd Cledwyn Hughes, penderfynodd yn ŵr ifanc i ymuno â’r Blaid Lafur, gan sefyll yn Ynys Môn a churo’r Aelod Seneddol ar y pryd, Megan Lloyd George, yn 1944.

“Pan roedd pobol yn pleidleisio, roedd bobol yn sôn ‘pobol Cledwyn ydan ni’ a dw i’n meddwl bod hynny’n dweud llawer,” meddai D Ben Rees.

“Roedd ganddo fe gefnogaeth fawr bersonol, nid gymaint i’w blaid ond iddo fe fel person.”

Bydd D Ben Rees yn traddodi ei ddarlith ar fywyd yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos heno yn Oriel Môn, Llangefni.