Mwd
Mae un o gynghorwyr tref Porthmadog, Simon Brooks, wedi dweud wrth golwg360 fod rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi canlyniadau adolygiad i helynt y mwd yng Ngŵyl Rhif 6 eleni.

Daeth cadarnhad ddoe y bydd adolygiad yn cael ei gynnal, ond fe fu rhai yn galw am ymchwiliad annibynnol i’r sefyllfa.

Roedd asiantaeth sy’n gyfrifol am reoli llifogydd yn yr ardal wedi rhoi caniatâd i drefnwyr yr ŵyl ddynodi maes parcio ar safle sy’n dueddol o ddioddef gorlifiad.

Canolfan hamdden

Fe fu’n rhaid i 160 o bobol aros mewn canolfan hamdden dros nos oherwydd nad oedd modd symud eu ceir er mwyn iddyn nhw gael gadael y safle. Fe fu’n rhaid i 18 tractor roi cymorth i symud y ceir yn y pen draw.

Yn ôl Simon Brooks, mae’n bwysig sicrhau nad yw’r drafodaeth yn digwydd “y tu ôl i ddrysau caëedig” a bod y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi’n llawn.

Meddai wrth golwg360: “Y peth pwysica ydi fod yr adolygiad yn cael ei gyhoeddi a bod gyda ni ryw fath o adroddiad gerbron. Dwi ddim yn siwr nad yr hyn dan ni’n feddwl wrth adroddiad ydi pobol yn eistedd rownd bwrdd a bod ’na rywbeth preifat yn cael ei gynhyrchu.”

Llifogydd

Dywedodd fod llifogydd a’u goblygiadau wedi bod yn “argyfwng” yn y dref ers rhai misoedd, a bod y sefyllfa’n mynd ymhell y tu hwnt i “ychydig o geir sydd wedi mynd yn sownd yn y traeth wythnos a hanner yn ôl”.

“O safbwynt pobol Port, mae’r hyn sy wedi digwydd ar y Traeth Mawr yn un o gyfres o ddigwyddiadau yn ardal Porthmadog a dan ni ddim yn hollol siwr ynglŷn â pham fod y llifogydd yma’n digwydd mor gyson yn y ffordd maen nhw’n digwydd.”

Yn ôl rhai trigolion lleol, mae ffordd osgoi newydd wedi newid y llif dŵr o gwmpas y dref ac mae drws sy’n rheoli’r llif wedi torri “ers naw mis heb gael ei drwsio”, yn ôl Simon Brooks.

“Mae angen i ni gael adroddiad ar hyn oll er mwyn gweld beth yn union sy’n digwydd yn yr ardal yna, a rhan o hynny ydi be sy wedi digwydd o ran Gŵyl Rhif 6. Felly mae rhywun yn croesawu’r adroddiad ond mae angen ei fod yn gynhwysfawr ac mae angen bod y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi. Os nad ydi o’n cael ei gyhoeddi, dydi o ddim yn ymchwiliad, achos tydi’r canlyniadau ddim yn hysbys i’r cyhoedd.

“Y peth pwysig ydi bod y canlyniadau’n dod yn wybodaeth gyhoeddus er mwyn bod pobol Porthmadog a phobol o rannau eraill o Gymru y mae eu ceir wedi mynd yn sownd yn gwybod yn union be sy wedi digwydd.”

Cefnogaeth leol

Yn ôl Simon Brooks, mae pobol leol yn dal i gefnogi’r ŵyl, ond fe ddylai’r adroddiad gynnwys gwybodaeth ynghylch sut i gael y budd economaidd mwyaf o’i chynnal yn y dref a’r ardaloedd cyfagos.

“Be mae pobol yn ei ddeud am Wyl Rhif 6 ydi ei bod hi’n ymestyn tymor y gwyliau o un wythnos. Ac felly pan dach chi’n ymestyn tymor sy ’mond yn para rhai misoedd o wythnos, mae hynny yn gyfraniad economaidd. Ond mae angen i ni sicrhau nad ydi o’n arwain at drafferthion fel sy wedi digwydd eleni. Wrth reswm, ’dach chi ddim eisiau gweld sefyllfa lle mae trafferthion yn cael eu hailadrodd o flwyddyn i flwyddyn, felly rhaid i ni osgoi hynny.”

Mae Partneriaeth Canol Tref Porthmadog eisoes wedi awgrymu wrth drefnwyr Gŵyl Rhif 6 y dylid cydweithio â thrigolion a busnesau lleol er mwyn hybu’r digwyddiad a’r hyn sydd gan yr ardal leol i’w gynnig i ymwelwyr.

Ychwanegodd Simon Brooks: “Mae hi ychydig bach fel Steddfod. Mae pobol Cymru wedi arfer â mynd i’r Steddfod heb wybod be sy tu hwnt i’r Maes mewn cymunedau cyfagos.

“Basai’n dda pe baen ni’n gallu tynnu sylw ymwelwyr â Gwyl Rhif 6 – Saeson er enghraifft – a deud ‘ylwch, gallech chi ddod i’r ardal cyn neu ar ôl yr wyl ac mae Port, Penrhyndeudraeth, Eryri, Gwynedd yn ardal braf i chi gael treulio ychydig ddyddiau. Mae gyda ni fusnesau hyfryd, gweithgarwch diwylliannol, gig y cewch chi ddod iddo fe hefyd.

“Pe bai mwy o gydweithio’n digwydd a mwy o wybodaeth leol yn llifo fewn i’r broses yna, ella mae’n bosib y byddai rhywun yn gweld y byddai rhai o’r problemau yma sydd fel pe baen nhw’n gysylltiedig yn cael eu lliniaru hefyd.

“Mae pobol eisiau gweld yr ŵyl yn ffynnu, ond does neb eisiau gweld gŵyl sy ddim yn medru gweithio mor effeithiol ag y gallai hi wneud.”