Alison Jane Farr-Davies
Mae Heddlu De Cymru yn trin marwolaeth dynes 42 oed mewn tŷ yn Abertawe brynhawn Mawrth fel achos o lofruddiaeth.

Maen nhw wedi arestio dyn 37 oed mewn perthynas â marwolaeth Alison Jane Farr-Davies, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r tŷ yn ardal yr Hafod am 1.35pm yn dilyn adroddiadau bod dyn yn galw am gymorth.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n cydymdeimlo â theulu Alison Jane Farr-Davies, oedd yn dathlu ei phen-blwydd yn 43 oed dros y penwythnos.

Maen nhw wedi apelio am dystion i’r digwyddiad, yn enwedig nifer o bobol oedd wedi ffonio’r heddlu ar ôl gweld dyn yn y stryd.

Maen nhw hefyd yn awyddus i glywed gan rywun a welodd unrhyw beth amheus yn yr ardal ddydd Sul yn ystod y gêm bêl-droed rhwng Abertawe a Chelsea, gan y gallai fod yn berthnasol i’r ymchwiliad.

Mae’r crwner wedi cael gwybod am y farwolaeth.