Mae Cymorth Cymru, y corff ymbarel sy’n cadw llygad ar wasanaethau digartrefedd a gofal cymdeithasol, wedi penodi cyn-lywydd myfyrwyr yn gyfarwyddwr newydd.

Katie Dalton a fu’n arwain yr ymgyrch yn erbyn ffïoedd myfyrwyr gydag NUS Cymru, ac ers 2011, mae hi wedi bod yn rheolwr polisi i’r elusen iechyd meddwl, Gofal.

“Yr wyf yn falch fod gan Cymorth Cymru gyfarwyddwr dros dro gyda phrofiad Katie mewn ymgyrchoedd a’i dealltwriaeth o flaenoriaethau polisi’r sector,” meddai Auriol Miller, cyfarwyddwr presennol Cymorth Cymru.

“Fe fydd yn bwrw ymlaen â’r gwaith allweddol gan ganolbwyntio ar y meysydd polisi sydd o gonsyrn i’n haelodau. Yr ydym eisiau rhywun sy’n deall y pynciau a hi yw’r person.”

Fe fydd Auriol Miller yn parhau gyda Cymorth Cymru tan Hydref 21, pryd y bydd Katie Dalton yn dechrau’r swydd.