Llun: Cyngor Powys
Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau heddiw y bydd ysgol gynradd Nantmel ger Rhaeadr ym Mhowys yn cau ar ddiwedd y flwyddyn eleni.

Roedd gan yr ysgol lai na 30 o ddisgyblion ac, yn ôl y Cyngor, bydd ei chau yn creu arbedion o hyd at £54,000.

Fe wnaeth y Cabinet gyhoeddi hysbysiad statudol i gau’r ysgol yn gynharach eleni, a bu 17 o wrthwynebiadau yn ystod y cyfnod i gyflwyno gwrthwynebiadau.

Er hyn, bydd yr ysgol yn cau ei drysau’n derfynol ar 31 Rhagfyr 2016, ac mae ysgol gynradd Rhaeadr wedi’i henwi fel ysgol gyfagos i’r plant fynychu.