Mae Morbaine, cwmni datblygu tai o Swydd Gaer, yn apelio’n erbyn penderfyniad Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd i wrthod eu cais cynllunio i godi 366 o dai ym Mhen-y-ffridd, Penrhosgarnedd, Bangor.

Gwrthodwyd y cais fis Ebrill oherwydd effaith y datblygiad ar y Gymraeg, a hynny’n groes i argymhelliad y swyddogion cynllunio. Dyma’r datblygiad tai arfaethedig mwyaf yn hanes Cyngor Gwynedd, a dyma’r tro cyntaf i bwyllgor cynllunio cyngor sir wrthod caniatâd cynllunio ar sail gwarchod y Gymraeg.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd yr Arolygydd Cynllunio yn ystyried yr apêl mewn Gwrandawiad Anffurfiol yn y dyfodol agos, a gwahoddir y rhai a oedd wedi gwneud sylwadau ar y cais cynllunio i gyflwyno sylwadau ychwanegol erbyn Hydref 3.

Pan gafodd y cais cynllunio ei ystyried gyntaf gan y Pwyllgor Cynllunio ar Ragfyr 14 y llynedd, fe’i gwrthodwyd o naw pleidlais i bedair, ac yn unol â’r drefn bu ‘cyfnod o gnoi cil’ cyn iddo ddod gerbron yr eildro ar Ebrill 4. Bryd hynny, cafodd ei wrthod trwy fwyafrif sylweddol o ddeg pleidlais i dair.

Y cynllun

Mae Morbaine Ltd eisiau codi 366 o dai, a dadl yr ymgyrchwyr ydi y bydd hynny’n cynyddu poblogaeth Ward Dewi, Bangor, o 750-800 o bobol, neu tua 45%.

Roedd 52% o boblogaeth y ward yn gallu siarad Cymraeg yn 2011. Pe byddai’r ganran o’r boblogaeth Gymraeg ei hiaith yn natblygiad Morbaine yn llai na 52%, byddai’n arwain at ostyngiad cyffredinol yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yn y ward.

Pryder ychwanegol a ddaeth i’r amlwg yn ystod y dyddiau diwethaf yw’r ffordd y mae datblygwyr yn defnyddio cynllun Cymorth i Brynu Llywodraeth Cymru i geisio denu prynwyr o Loegr i symud i fyw i Gymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd Nodyn Cyngor Technegol 20 (Cynllunio a’r Iaith Gymraeg) newydd yn cael ei gyhoeddi yn ystod y mis nesaf. Bydd y Nodyn diwygiedig yn dehongli darpariaethau iaith y ddeddf ac yn rhoi arweiniad i awdurdodau cynllunio lleol ar sut i weithredu mewn perthynas â’r Gymraeg.