Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood Llun: Plaid Cymru
Bydd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood heddiw yn datgelu cynllun ei phlaid am dymor nesaf y Cynulliad wrth lansio Rhaglen yr Wrthblaid.

Dyma’r tro cyntaf i Blaid Cymru gynhyrchu rhaglen o’r fath ac mae’r blaid yn dweud y bydd yn cynnig “dewis amgen cynhwysfawr i raglen y llywodraeth”.

Ymysg yr ymrwymiadau sy’n cael eu rhestru yn Rhaglen yr Wrthblaid mae :

  • Cynlluniau i gynyddu lefel y caffael cyhoeddus i 75%
  • Cynlluniau i greu Banc Cenedlaethol Cymru fyddai mewn dwylo cyhoeddus
  • Sefydlu comisiwn seneddol y Cynulliad i edrych i mewn i ddiwygio treth cyngor neu gael rhywbeth yn ei le
  • Cynlluniau i gynnal ac adfer gwasanaethau ysbytai lleol
  • Cynlluniau i wella gwasanaethau iechyd meddwl a mynediad at therapi
  • Cynlluniau i gynnig gofal plant am ddim i blant tair a phedair oed
  • Diwygio hyfforddiant athrawon gyda’r nod o wneud dysgu yn broffesiwn lefel Meistr
  • Sicrhau bod y system o ffioedd dysgu i fyfyrwyr yn gynaliadwy

‘Craffu cadarn’ 

Bydd y ddogfen yn cael ei haddasu yn ôl y galw wrth i’r tymor fynd yn ei flaen, yn ôl yr arweinydd.

“Fel gwrthblaid, fe fyddwn yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu cadarn. Ar yr un pryd, gan nad oedd gan y llywodraeth fwyafrif, mae ein safle ni fel gwrthblaid yn golygu sicrhau enillion a llwyddiannau go iawn i’n hetholwyr a’r genedl,” meddai Leanne Wood.

“Am y tro cyntaf, bydd y llywodraeth dan arweiniad Llafur yn cael ei dwyn i gyfrif ac yn cael ei gorfodi i weithredu dros Gymru gyfan gan blaid sydd yn meddu ar raglen amgen, fanwl a chynhwysfawr.

“Bydd Plaid Cymru yn defnyddio pob cyfle sydd ar gael i ni i sicrhau bod y llywodraeth wastad yn gweithio er lles pobol Cymru,” meddai.