Plant yn dod i adnabod Owain Glyndŵr yn well
Bydd plant ysgol o Lanelli yn cymryd rhan mewn dathliad o fywyd Owain Glyndŵr yng Nghaerfyrddin ddydd Gwener nesaf a hynny union 616 o flynyddoedd ers ei ddatgan yn Dywysog Cymru.

Mae’r digwyddiad ar Ddiwrnod Owain Glyndŵr yn rhan o Ŵyl Hanes Cymru i Blant, sy’n cynnal mwy na 130 o sioeau mewn safleoedd treftadaeth ledled Cymru.

Mae tîm Cymunedau yn Gyntaf Cyngor Sir Gâr wedi trefnu bod disgyblion o Ysgol Pen-y-gaer ac Ysgol Hen Heol yn dod i’r digwyddiad y tu allan i Gastell Caerfyrddin.

Bydd y plant yn cael cyfle i gwrdd ag Owain mewn perfformiad rhyngweithiol sydd wedi ei anelu at blant rhwng 6 ac 11 oed. Bydd actorion ‘Mewn Cymeriad’ yn dod â’r sioe’n fyw ac yn tynnu sylw’r plant at yr hyn achosodd y gwrthryfel, yr hyn ddigwyddodd yn ystod y deuddeg mlynedd o frwydro, a pham rydym yn dal i gofio am Owain Glyndŵr fel un o brif arwyr Cymru.  

‘Ein harwr ni’

Bydd y digwyddiad, ‘Owain Glyndŵr – Ein Harwr Ni’, yn dechrau am 10.15am gydag oddeutu 50 o blant a staff yn bresennol.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, “Bydd hwn yn ddigwyddiad gwych ac rwy’n falch o gael bod yn rhan o’r Fforwm a’r trefnu gydag adain dwristiaeth y cyngor.

Ychwanegodd, “Bu Owain Glyndŵr yng Nghastell Caerfyrddin. Daeth i lawr Dyffryn Tywi ac fe ddaethon nhw allan a rhoi’r allweddi iddo.”