Mae priffordd yr A44 rhwng Llangurig a Phonterwyd wedi cau i’r ddau gyfeiriad yn dilyn damwain.

Cadarnhaodd Heddlu Dyfed Powys bod damwain wedi digwydd ond nad oes mwy o fanylion ar hyn o bryd.

Gofynnodd llefarydd ar ran yr heddlu i geir osgoi’r ardal am y tro.