Mae gan Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, yn cofio am un o dri Penyberth fel “ffrind da”. Roedd Lewis Valentine yn daid iddo.

Mewn cyfweliad arbennig â golwg360, i nodi 80 mlynedd ers i Lewis Valentine, D J Williams a Saunders Lewis llosgi’r ysgol fomio ym Mhenrhos ger Pwllheli yn ystod oriau mân Medi 8, 1936, mae Ian Gwyn Hughes yn dweud fod cofio ei daid yn dangos y ffordd y mae Cymru wedi newid dros y degawdau.

“Roedd o’n ffrind da i fi, a finna’n ffrindiau efo fo. Oedd o’n fwy o berthynas na thaid ac ŵyr, efallai… ddaru o ddatblygu’n berthynas o ran ffrindiau,” meddai Ian Gwyn Hughes.

“Dw i’n cofio mynd yn aml i’r fflat, a Nain yn gwneud coffi fel oedd hi trwy’r amser, drwy ferwi llaeth, ac oeddwn i’n mynd i’r stydi i siarad efo Taid a threulio oriau (yno).

“… Oedd o ddim jyst yn straeon mewn ffordd, oedd o’n hanes Cymru, a’r ffordd oedd Cymru wedi newid.

‘Gwyliau yn Wormwood Scrubs’

Mae’n cofio ei daid yn sôn am ei brofiadau yn dilyn llosgi’r ysgol fomio – yr achosion llys a’i brofiad yn y carchar yn Wormwood Scrubs, Llundain.

“Roedd o’n dweud weithia ei fod yn teimlo bod y Frenhines wedi ei wahodd o am wyliau am naw mis i Wormwood Scrubs,” meddai Ian Gwyn Hughes am y Lewis Valentine oedd yn “hoffi tynnu coes” ac yn “un direidus”.

Effaith ar y teulu

Os mai ei grefydd fel Cristion a’i egwyddorion oedd yn ei gymell o hyd, meddai Ian Gwyn Hughes, fe gafodd y weithred gryn dipyn o effaith o deulu ar y pryd, na chafodd wybod am fwriad y tri nes ar ôl iddyn nhw gynnau’r tân.

“Oedd Mam yn bump oed ar y pryd, a dw i’n cofio hi’n dweud wrtha i fod hi a’i brawd yn cael eu gwawdio, ‘your father’s in jail’ ac yn y blaen.

“Erbyn diwedd, ddaru nhw adael Llandudno lle oedd y teulu’n gwbwl gyfforddus a hapus, a mynd i fyw yn Rhos (Rhosllannerchrugog).

“Dw i ddim yn dweud cawson nhw eu gorfodi o’na, ond roedd ymateb pobol leol falle i rywbeth fel’na yn bownd o gael effaith arnyn nhw.”