Papur newydd Y Brython yn adrodd ar losgi Penyberth yn 1936
Cynnau’r ‘tân yn Llŷn’ yn ystod oriau mân Medi 8, 1936, oedd y digwyddiad cyntaf o arwyddocâd yn hanes y mudiad cenedlaetholgar yng Nghymru, yn ôl yr ymgyrchydd a’r canwr, Dafydd Iwan.

Wrth gofio 80 mlynedd ers i ‘dri Penyberth’ – Lewis Valentine, DJ Williams a Saunders Lewis – losgi ysgol fomio’r fyddin Brydeinig yn ystod oriau mân Medi 8, 1936, mae Dafydd Iwan yn dweud wrth golwg360 fod y weithred yn bwysicach na sefydlu Plaid Cymru yn 1925.

Roedd tad-cu Dafydd Iwan, Fred Jones, yn y cyfarfod cynta’ hwnnw ym Mhwllheli ond, fel “cenedlaetholwr ifanc”, llosgi’r ysgol fomio “oedd y weithred fawr arwyddocaol,” meddai’r canwr.

Roedd digwyddiadau mawr eraill “ar y ffordd i ryddid” o bwys hefyd, fel Tryweryn, isetholiad Caerfyrddin yn 1966 a safiad teulu’r Beasley’s dros ffurflenni Cymraeg, ond y tân yn Llŷn oedd y cyntaf.

“Ysgwyd pobol”

Yn ôl Dafydd Iwan, roedd y gwrthdystiad hwnnw wedi “ysgwyd pobol” mewn ffyrdd na all unrhyw etholiad na phlaid wleidyddol ei wneud a bod ei arwyddocâd wedi “cynyddu gyda’r blynyddoedd.”

“Mae pob mudiad cenedlaethol angen digwyddiadau eiconaidd fel hyn, fel cerrig milltir ar y daith,” meddai.

“Mae’r cerrig milltir yma’n bwysig ac fel mae amser yn mynd ymlaen, maen nhw, os rhywbeth, yn tyfu mewn arwyddocâd.

“Mae’n wir am bob mudiad a phob cenedl. Mae angen rhai digwyddiadau sy’n cynhyrfu’r gwaed ac sydd yn ysgwyd pobol.

“…Maen nhw’n dweud bod ‘na 15,000 o bobol wedi dod i Bafiliwn Caernarfon i groesawu’r tri o’r carchar… sy’n siŵr yn un o dorfeydd mwyaf y mudiad cenedlaethol.

“Felly roedd y weithred yma wedi taro nerf ac wedi cael ymateb drwy Wynedd ac yn wir, drwy Gymru gyfan. Maen nhw’n bwysig am eu bod yn cynhyrfu pethau. Mae angen digwyddiadau sydd yn ysgwyd pobol yn fwy nag etholiadau.”

Llosgi yn enw’r Blaid

20 mlynedd cyn y weithred, roedd gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon, oedd wedi arwain at rai cenedlaetholwyr yng Nghymru i “deimlo bod y mudiad yng Nghymru yn dawedog, yn ddi-ffrwt ac yn ddigynnig.”

“Felly arwyddocâd llosgi’r ysgol fomio oedd bod yna weithred uniongyrchol yn taro yn erbyn y buddiannau Prydeinig, yn cael ei gwneud yn enw’r Blaid,” meddai Dafydd Iwan.

“Mae’n wir na wnaeth yr effaith ddim arwain at lwyddiannau mawr i’r Blaid a hynny’n bennaf oherwydd bod y rhyfel wedi cymryd drosodd a bod Prydeindod ymdrech yr Ail Ryfel Byd wedi diffodd y rhan fwyaf o’r fflamau fel petai.”

Gwrthdystiadau eraill

Ond doedd y digwyddiad “ddim ar ei phen ei hun”, gyda chenedlaetholwyr Cymru yn dechrau cicio yn erbyn y tresi yn ystod yr un cyfnod.

Defnyddiodd Dafydd Iwan enghraifft yn 1932, pan “wrthododd” yr awdurdodau chwifio’r Ddraig Goch ar Ddydd Gŵyl Dewi ar dwr yr Eryr yng Nghaernarfon, yn lle un Jac yr Undeb.

“Fe aeth pedwar o bobol ifanc i fyny’r twr, tynnu’r Union Jack a’i rhwygo hi’n gyhoeddus ar faes Caernarfon a rhoi’r Ddraig Goch yn ei lle hi,” meddai Dafydd Iwan.

“Roedd gweithredoedd fel yna’n bwysig. Mae’n rhaid i ni gofio hefyd, yn dilyn y tân yn Llŷn, fe gafwyd gwrthdystiadau yn erbyn y fyddin Brydeinig yn Sir Benfro yn Epynt, yn Nhrawsfynydd a sawl man arall.

“Mi roedd ‘na hefyd wrthwynebwyr cydwybodol yn gwrthod ymuno â’r fyddin ar sail cenedlaetholdeb ac yna wrth gwrs mi ddaeth Tryweryn yn y 60au ac yna isetholiad ’66 gyda Gwynfor Evans.”

Tri “arbennig”

Roedd Dafydd Iwan wedi cwrdd â phob un o dri Penyberth yn eu tro, ac mae’n falch iawn ei fod wedi cael y cyfle.

“Mi oedd y tri yn bobol arbennig iawn, gyda phersonoliaethau cryf iawn a gwahanol iawn,” meddai.

“Yn achos DJ a Lewis Valentine, roedden nhw’n bobol gynnes ac agos atoch chi. Roedd Saunders Lewis yn fwy gwahanol ac ar wahân ond wrth gwrs cwbl, cwbl arbennig.”

Pwysleisiodd hefyd ei fod yn bwysig cofio’r sawl a fu’n helpu’r tri ar noson losgi’r ysgol fomio, sef O.M. Roberts, J.E. Jones, Victor Hampson Jones a Robin Richards.

<