Mae dyn 23 mlwydd oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ladrad arfog mewn siop yng Nghwmbrân ddoe.

Cafodd yr heddlu eu galw am 3:38yh prynhawn dydd Llun, 5 Medi, i’r digwyddiad yn Pontnewydd General Stores yn y dref.

Roedd dyn oedd yn honni fod ganddo ddryll wedi mynd i mewn i’r siop a mynnu arian.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu yn ystod y lladrad ac fe adawodd y dyn gyda thua £80 o arian parod.

Mae dyn 23 oed o ardal Cwmbrân wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ladrad arfog ac mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad ffonio 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111.