Dyma’r bumed flwyddyn i un o brif wyliau gwyddoniaeth Ewrop ymweld ag Abertawe.

Mae Gŵyl Wyddoniaeth Prydain yn dechrau heddiw ac yn cael ei chynnal gan Brifysgol Abertawe gyda mwy na chant o ddigwyddiadau ar draws y campws, y ddinas ac yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Bydd yn para pedwar diwrnod gyda phenwythnos o ddigwyddiadau i’r teulu ar benwythnos Medi 10 ac 11.

Dadl am ddur

 

Un o brif ddigwyddiadau’r ŵyl heddiw ydy dadl ynglŷn â chyfraniad dur yn ystod yr unfed ganrif ar hugain, gan drafod hefyd ei ddyfodol economaidd, diwydiannol a chymdeithasol.

Yn rhan o’r drafodaeth mae’r Athro David Worsley a’r Athro Louise Miskell o Brifysgol Abertawe, Laura Baker Rheolwr Technegol Grŵp Tata Ewrop a Katie Daehn ymchwilydd ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Cefndir

 

Cafodd Gŵyl Wyddoniaeth Prydain ei sefydlu gyntaf yn 1831, ac ers hynny mae wedi ymweld ag Abertawe bedair o weithiau yn 1848, 1880, 1971 ac yn fwy diweddar yn 1990.

Mae’r ŵyl yn canolbwyntio ar gyflwyno gwyddoniaeth i oedolion nad ydynt yn arbenigwyr ond sydd â diddordeb eang yn y pwnc.