Dr Noel Davies
Mae enwadau Cristnogol yng Nghymru wedi ymuno â dadl Brexit drwy lunio rhestr o fesurau economaidd a hawliau dynol y maen nhw’n credu sy’n haeddu lle yn y drafodaeth.

Mae’r rhestr at y Pwyllgor Materion Cymreig yn cyfeirio at feysydd arbennig, fel materion hawliau lleiafrifol ac ieithyddol, amaethyddiaeth a’r amgylchedd, sy’n “bwysig” i aelodau eglwysig a chapeli yng Nghymru.

“Rydyn ni’n meddwl bod y bleidlais yn mynd i newid natur ein cymdeithas ni yn sylfaenol, ac mae perthynas ni ag Ewrop fel gwledydd yn mynd i fod yn dyngedfennol,” meddai Dr Noel Davies o Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

“Roedden ni’n teimlo ei bod hi’n bwysig bod yr eglwysi fel cyrff sydd â chonsyrn am natur ein cymdeithas ni yn ymateb gyda’i gilydd i’r hyn sydd wedi digwydd.”

Perthynas Cymru ac Ewrop

Mae’r rhestr yn galw ar lywodraethau Prydain a Chymru i ganolbwyntio ar berthynas Cymru, a gwledydd Prydain yn gyffredinol, â gwledydd Ewrop a “mynegi persbectif Cristnogol” ar faterion hawliau dynol.

“Mae gan ein henwadau ni a Christnogion yng Nghymru yn gyffredinol berthynas agos â nifer o unigolion a hefyd eglwysig mewn gwledydd eraill ar draws Ewrop,” ychwanegodd Dr Noel Davies wrth Golwg360.

“Gyda chymaint o ffoaduriaid yn dod i’r gwledydd yma, mae’r cyfrifoldeb cymdeithasol, Cristnogol ni a’r awydd am sicrhau cyfiawnder i bobol sy’n dod yma i geisio lloches yn dyngedfennol bwysig, ac fe wnaethon ni feddwl bod y materion yma o bwys arbennig.”

“Tuedd yr Eglwysi oedd ein bod ni’n bleidiol i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ond mae’r refferendwm wedi penderfynu’n wahanol, ac mae’n rhaid i ni fyw â’r canlyniad hynny, felly rydyn ni’n credu bod trio cael barn glir, gyhoeddus ar y materion yma yn bwysig.

“Gadael yr Undeb Ewropeaidd ydyn ni wedi penderfynu gwneud, nid gadael Ewrop, ry’n ni’n dal i fod yn rhan o’r cyfandir, ry’n ni’n dal i fod yn rhan o deulu o genhedloedd Ewropeaidd ac mae Cymru’n dal i fod yn wlad Ewropeaidd.

“Mae meithrin y berthynas honno yn mynd i fod yn dyngedfennol bwysig i ni.”