Llandudno gyda'r Gogarth Fawr yn y cefndir
Mae’r Heddlu yn apelio am dystion ar ôl i ddau ddyn ymosod ar ddyn ar y Gogarth Fawr yn Llandudno.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad am oddeutu 5yp ddydd Llun, 29 Awst, ger gorsaf isaf y ceir ceblau, gyferbyn â Gwesty’r Grand.

Cafodd y dyn anafiadau difrifol i’w fraich a’i goes.

Meddai’r Cwnstabl Gary Morris: “Mi fyddai nifer fawr o ymwelwyr wedi bod yn yr ardal ar y pryd, a chredwn y byddai rhywun wedi bod yn dyst i’r ymosodiad.

“Rydym yn awyddus i siarad ag unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad hwn.”

Mae un o’r troseddwyr yn cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, 21 oed, tua 5’7” o daldra.  Roedd yn gwisgo crys-t Nike gwyn, llewys byr gyda logo du, a throwsus gwyn.

Roedd yr ail ddyn yn wyn, 30 oed a tua 5’8” o daldra.  Roedd ganddo wallt melyn byr a blêr, ac roedd yn gwisgo siorts gwyn a thop glas.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn awyddus i glywed gan unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd ac a welodd yr ymosodiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r Heddlu drwy ddefnyddio’r gwasanaeth sgwrsio ar-lein newydd chat/contact/chat-support.aspx a dyfynnu’r cyfeirnod U130947, neu  ffonio 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555111.