(Llun: Y Gwasanaeth Ambiwlans)
Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru wedi bwrw eu targedau ar gyfer amseroedd ymateb ambiwlansys, a hynny am yr ail fis yn olynol.

Yn ôl yr ystadegau ar gyfer mis Gorffennaf, cafodd 75.3% o alwadau ‘coch’ – rhai lle mae bywyd claf mewn perygl o ganlyniad i salwch neu anaf – eu hateb o fewn wyth munud. Targed Llywodraeth Cymru yw 65%.

Ond mae ychydig o ddirywiad ers mis Mehefin – roedd y Gwasanaeth Ambiwlans wedi ymateb i gyfanswm o 77.1% o alwadau coch, o fewn wyth munud.

Ar draws Cymru gyfan, pum munud a phum eiliad oedd yr amser ymateb canolrifol ar gyfer galwadau coch, wrth i’r gwasanaeth ambiwlans ymateb i 1,277 o alwadau bob dydd ar gyfartaledd – sy’n gynnydd o 3.4% o’i gymharu â mis Mehefin.

Dim ‘gorffwys ar ein rhwyfau’

Mewn datganiad, dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething: “Mae’n galonogol iawn gweld bod pob Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru wedi rhagori ar y targed cenedlaethol ar gyfer galwadau coch am yr ail fis yn olynol, er gwaetha’r galw sy’n cynyddu’n rheolaidd.

“Ym mis Gorffennaf, cafodd mwy na 39,500 o alwadau brys eu gwneud i Wasanaeth Ambiwlans Cymru – 1,277 o alwadau’r dydd ar gyfartaledd.

“Hoffwn ddiolch i staff Gwasanaeth Ambiwlans Cymru am eu hymroddiad i ddarparu’r help sydd ei angen ar bobl yn gyflym, er gwaetha’r pwysau hyn.

“Mae’r ystadegau sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn dangos bod gwasanaeth ymateb brys yn cael ei ddarparu i gleifion sydd wir ei angen diolch i’r model newydd a gafodd ei gyflwyno gennym fis Hydref.

“Dylai pobl fod yn gwbl hyderus fod y system newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar ansawdd y gofal mae pobl yn ei gael ac ar y canlyniadau.

“Yma yng Nghymru, mae gennym ni lawer i ymfalchïo ynddo, ond fyddwn ni ddim yn gorffwys ar ein rhwyfau.

“Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru – a’r system iechyd a gofal cymdeithasol yn ehangach – eisoes yn cynllunio ar gyfer y misoedd sydd i ddod a’r cyfnod anodd dros y gaeaf.”