Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion i wrthdrawiad difrifol a ddigwyddodd rhwng Bryneglwys a Chorwen yn sir Ddinbych brynhawn ddoe.

Digwyddodd y gwrthdrawiad rhwng beic modur a char BMW ychydig cyn 1pm ddydd Llun, Awst 29 ar ffordd yr A5104.

Cafodd y beiciwr modur ei gludo i Ysbyty Stoke mewn hofrennydd gydag anafiadau sy’n cael eu disgrifio fel rhai sy’n ‘newid bywyd.’

“Rydym yn eithriadol o awyddus i siarad â gyrrwr gerbyd lliw tywyll a gafodd ei basio gan feic modur lliw oren cyn y gwrthdrawiad,” meddai’r Rhingyll Trystan Bevan.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar y gwasanaeth sgwrsio ar-lein neu ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod U130812.