Arfon Jones (llun: Plaid Cymru)
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio cronfa i helpu cymunedau i ymladd troseddu – trwy ddefnyddio arian a gafodd ei atafaelu gan droseddwyr.

Bydd grwpiau lleol yn gallu gwneud cais am yr arian, a bydd yr enillwyr yn cael eu dewis trwy bleidlais gyhoeddus ar-lein.

Mae cyfanswm o £40,000 ar gael i’r sefydliadau llwyddiannus  – gyda dau grŵp ym mhob sir yn cael £2500 yr un a £5000 yr un i ddau grŵp sy’n gweithredu ar draws gogledd Cymru.

Mae Grwpiau Cymunedol yn cael eu hannog i wneud cais am yr arian rhwng 5 – 30 Medi trwy ddefnyddio ffurflen gais “Eich Cymuned, Eich Dewis” a fydd ar gael ar wefan Heddlu Gogledd Cymru a gwefan Comisiynydd yr Heddlu.

‘Syniad gwych’

“Dwi’n credu bod hwn yn syniad gwych, bod arian sy’n dod o elw troseddau yn cael ei roi yn ôl i gymunedau i wneud yn iawn am y difrod a achosir gan weithgareddau troseddol,” meddai Arfon Jones, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru.

“Mae’n gyfle i bobl gael dweud eu dweud, beth yw eu blaenoriaethau, beth fuasent yn hoffi gweld mwy ohono ac mae’r Gronfa Gymunedol yn rhoi’r arian at beth maent hwy yn feddwl fyddai orau i’w cymunedau.

“Dwi’n credu y gall grwpiau cymunedol bychan wneud llawer iawn i wneud cymunedau’n ddiogelach, lleihau trosedd ac ail-droseddu.

“Mae hefyd yn anfon neges gadarnhaol i’r cymunedau ei fod yn dangos ein bod yn barod i wrando a gadael iddynt wneud penderfyniadau eu hunain.”