Jeremy Miles
Mae dau Aelod Cynulliad Llafur wedi dweud y gallai dadrithiad y cyhoedd gyda gwleidyddion fygwth dyfodol y Cynulliad.

Dywedodd AC Castell Nedd Jeremy Miles y gallai’r “dadrithiad” amlwg gyda gwleidyddion, sydd wedi dod i’r amlwg yn sgîl Brexit, waethygu erbyn yr etholiad Cynulliad nesaf mewn pum mlynedd.

Ychwanegodd ei gyd-bleidiwr, AC Llanelli Lee Waters, bod “popular backlash” wedi bod tuag at bopeth sy’n cael ei weld yn rhan o’r sefydliad, ac er bod y Cynulliad wedi aros ar ochr iawn y farn gyhoeddus hyd yn hyn, rhybuddiodd y gallai hynny newid.

Roedd sylwadau’r ddau i’r BBC yn ymateb i erthygl a sgwennwyd i’r cylchgrawn ar-lein Heat Street gan gyn-ymgynghorydd arbennig Llafur, David Taylor, oedd yn rhybuddio’r blaid yng Nghymru y byddai’n gallu troi pobl yn erbyn y Cynulliad os yw’n ceisio tanseilio pleidlais Brexit.