Blaenplwyf (Nigel Callaghan CCA2.0)
Mae ffordd yr A487 ynghau i’r ddau gyfeiriad yng Ngheredigion yn dilyn damwain ddifrifol.
Digwyddodd y gwrthdrawiad yn ardal Blaenplwyf fore Gwener.
Mae’r ffordd ynghau i’r ddau gyfeiriad rhwng Llanfarian a Llanrhystud, ac mae disgwyl iddi fod ynghau am rai oriau.
Dyma’r ail ddigwyddiad ar y ffordd yn yr ardal honno o fewn pedwar diwrnod, ar ôl i gar foelyd ym Mlaenplwyf ddydd Llun.
Ac mae cyfres o ddamweiniau difrifol wedi bod yno yn ystod y blynyddoedd diwetha’, gyda nifer o farwolaethau.