Ffoaduriaid yn Syria (Llun: Achub y Plant)
Dim ond 34 o ffoaduriaid o Syria a gafodd gartref yng Nghymru tros dri mis rhwng Ebrill a Mehefin, yn ôl elusen Oxfam.

Yn yr un amser, fe roddodd yr Alban gartref i 249 ac fe aeth 104 i Ogledd Iwerddon, sydd tua hanner maint Cymru.

Erbyn diwedd Mehefin, dim ond 112 o ffoaduriaid o Syria oedd yng Nghymru ac mae Oxfam yn dweud bod rhaid i’r Llywodraeth a chynghorau sir weithiredu gyda’i gilydd “ar frys”.

‘Dylai Cymru wneud mwy’

Roedd y broses yn “boenus o araf”, meddai Matthew Hemsley, rheolwr ymgyrchoedd ac eiriolaeth Oxfam Cymru.

“Er bod rhywfaint o welliant o ran y niferoedd sydd wedi eu hailgartrefu yma, does dim amheuaeth o gwbl y gallai ac y dylai Cymru wneud mwy i helpu teuluoedd sydd â’u bywydau yn yfflon oherwydd y rhyfel.”
“Rydym yn gwybod bod yr ewyllys yno; mae holl awdurdodau lleol Cymru eisoes wedi ymrwymo i gymryd rhan yn y cynllun ailgartrefu a ariennir gan y Swyddfa Gartref.”