Mae’r heddlu yn Llanelli wedi datgelu eu bod yn cynnal patrolau ychwanegol ar ôl i ddyn ddefnyddio cyllell mewn lladrad ar stad ddiwydiannol.
Cerddodd y dyn i mewn i uned fusnes yn Ystâd Ddiwydiannol Dafen tua 5:15 brynhawn ddoe gan wneud bygythiadau gyda chyllell.
Llwyddodd i ddianc gyda gwahanol eitemau yn ogystal ag allweddi i BMW arian a gafodd ei gymryd wedyn heb ganiatâd y perchennog.
Mae’r dyn tua 5 troedfedd 6 modfedd o daldra, yn denau, gyda sgarff dros ei wyneb. Roedd yn gwisgo siaced y Groes Goch a throwsus tracwisg llwyd gyda rhwyg ynddyn nhw.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Matt Webb o Heddlu Dyfed Powys na chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad ond ei fod wedi peri sioc i’r rhai oedd yn yr uned ar y pryd.
Mae modd rhoi gwybodaeth yn ddienw drwy ffonio Taclo’r Taclau ar 0800 555 111.