Y model o'r castell (Llun trwy law Cadw)
Mae Cymru’n ceisio ennill ei le ym myd  y briciau Lego am y tro cynta’ mewn 84 mlynedd.

Mae’r corff etifeddiaeth hanesyddol, Cadw, wedi cynnig model o Gastell Caerffili – gan gynnwys ei dŵr cam enwog – ar gyfer pleidlais i ddewis model newydd ar gyfer y tegan plant.

Fe gafodd y model ei greu gan arlunydd Lego o gwmni o’r enw Little Big Art ac fe fydd cyfle i bobol bleidleisio drosto.

Galw am gefnogaeth

Os caiff gefngaeth 10,000 o bobol, fe fydd panel o arbenigwyr wedyn yn ystyried a ddylai gael ei gynhyrchu’n fasnachol.

Mae’r Ysgrifennydd Economi yn Llywodraeth Cymru, Ken Skates, wedi apelio am gefnogaeth i’r model, er mwyn i’r castell fod ochr yn ochr ag adeiladau fel y Louvre ym mn Mharis.

Y nod yw cael cyhoeddusrwydd i’r ffaith fod cymaint o gestyll yng Nghymru.

Castell Caerffili yw’r mwya’ yng Nghymru ac mae’n enwog am y tŵr cam a sigwyd yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr.

Roedd y cwmni wedi cael comisiwn gan Cadw i wneud modelau Lego o nifer o gestyll Cymreig.