Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth wedi i fachgen yn ei arddegau gael ei frathu gan gi yn Hengoed.

Cafodd yr heddlu eu galw am 5yp dydd Llun, 22 Awst wedi i’r bachgen 13 mlwydd oed gael ei frathu gan y ci yn yr ardal  sy’n arwain at Cae Canol yn Hengoed.

Cafodd y bachgen, sy’n dod o ardal Hengoed, ei gludo i’r feddygfa leol i drin y clwyf ar ei glun.

Erbyn hyn mae swyddogion yn ceisio dod o hyd i berchennog y ci sy’n cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn, yn ei chwedegau. Mae’r dyn tua 6 troedfedd o daldra ac roedd yn gwisgo siaced law lliw gwyrdd tywyll a throwsus du.

Roedd y ci yn ddu gyda ffwr gwyn o amgylch ei wyneb ac mae’r heddlu’n amau ei fod o frîd Border Collie o bosibl.

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i ffonio 101 gan ddyfynnu rhif cyfeirnod: 389 22/08/16.