Mae’r heddlu yng Nghaerdydd yn apelio am wybodaeth wedi ymosodiad ar ddyn yn y brifddinas yn ystod y dydd ddoe.
Ymosodwyd ar y dyn 30 oed tu allan i floc o fflatiau yn Anderson Place, Waunadda, toc cyn 3yp ddydd Llun, 22 Awst.
Roedd dau ddyn anhysbys wedi ymosod arno cyn gadael y safle mewn car gwyn.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, lle mae mewn cyflwr cyfforddus a sefydlog.
Mae pedwar dyn a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â’r ymosodiad wedi cael eu rhyddhau heb gyhuddiad.
Mae’r heddlu nawr yn apelio am dystion ac maen nhw’n awyddus i glywed gan unrhyw un a allai fod wedi gweld y digwyddiad yn Anderson Place neu unrhyw un wnaeth sylwi ar y car gwyn yn yr ardal ar y pryd.
Gall y cyhoedd gysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.