Owen Smith, AS Pontypridd, (Llun: Andrew Matthews/PA Wire)
Mae arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban, Kezia Dugdale, wedi dweud y bydd yn cefnogi Owen Smith yn y gystadleuaeth am arweinyddiaeth y blaid.

Yn ôl Kezia Dugdale, fe fydd AS Pontypridd a’r unig ymgeisydd arall yn y ras, yn uno’r blaid ac yn ennill yr Etholiad Cyffredinol nesaf.

Roedd arweinydd Llafur yn yr Alban wedi ymgyrchu gyda Jeremy Corbyn cyn y refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd ond nid yw hi’n credu y gallai ennill etholiad.

Wrth ysgrifennu yn ei cholofn yn y Daily Record dywedodd Kezia Dugdale: “Fel aelodau’r Blaid Lafur, efallai nad ydym yn hoff o’r modd rydym wedi cyrraedd y sefyllfa yma ond mae ’na benderfyniad i’w wneud.

“Owen Smith sy’n cael fy mhleidlais i. Rwy’n credu y gall uno’r blaid a’n symud i ffwrdd o’r rhwygiadau sy’n bodoli o dan arweinyddiaeth Jeremy Corbyn.”

Ychwanegodd bod Owen Smith yn deall bod angen ennyn cefnogaeth pobl nad oedd wedi pleidleisio dros y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, a bod angen “siarad â’r wlad gyfan”, nid yn unig i’r rhai oedd eisoes yn cefnogi’r blaid.

Fe fydd tua 640,000 o aelodau’r blaid sydd â phleidlais yn y gystadleuaeth, yn derbyn y papurau pleidleisio cyntaf heddiw. Mae disgwyl i Jeremy Corbyn ac Owen Smith deithio i’r  Alban yn ddiweddarach yr wythnos hon ar gyfer dadl hystingau.

Fe fydd y bleidlais yn dod i ben ar 21 Medi.