Ddoe, roedd Heddlu Gwent wedi paratoi am yr hyn oedd wedi’i ddisgrifio yn “brotest gynta’ o nifer” yn erbyn y bwriad o roi cartrefi i ffoaduriaid o Syria yn nhre’ Glyn Ebwy… ond wnaeth y grwp oedd yn trefnu’r orymdaith ddim troi i fyny.

Roedd mudiadau gwrth-hiliaeth hefyd wedi cyrraedd y dre’ i herio honiadau grwp Welsh Resistance ar eu tudalen ar wefan Facebook nad oedden nhw “eisie ffoaduriaid ffor’ hyn”.

Roedd digwyl i’r grwp gynnal gwrthdystiad yng nghanol Glyn Ebwy tua 5yp ddydd Sadwrn, ond ddigwyddodd y brotest ddim. Roedden nhw wedi dweud eu bod nhw’n codi llais hefyd yn erbyn cynllun i adeiladu mosg yn y dre’, ond fuodd yna neb

Erbyn neithiwr, roedd tudalen Facebook y grwp wedi’i newid o fod yn un gyhoeddus y gallai pawb ei darllen, i fod yn gymuned gaëedig na all ond aelodau gael mynediad i’w darllen neu i gyfrannu ati.