Mae llefarydd ar ran y Ceidwadwyr wedi wfftio honiadau y byddai tîm pêl-droed merched Prydeinig yn peryglu annibyniaeth tîm pêl-droed dynion Cymru trwy gystadlu yn y Gêmau Olympaidd.

Ac maen nhw’n galw am drefniant tymor hir gyda’r awdurdodau pêl-droed i sicrhau bod tîm Prydeinig yn gallu chwarae ar lefel Olympaidd heb beryglu tîmau’r gwledydd unigol mewn cystadlaethau eraill.

Roedd cefnogwyr pêl-droed wedi ymateb yn gry’ i honiadau gan Arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, fod chwaraewyr pêl-droed merched Cymru yn cael eu dal yn ôl gan “genedlaetholdeb bitw” Cymdeithasau Pêl-droed Cymru a’r Alban trwy rwystro iddyn nhw gymryd rhan yn Rio.

‘Dim angen’ – meddai Dragon Soccer

“Does dim angen tîm Prydeinig, ble y byddai llai o chwaraewyr o Gymru yn cael eu lle yn y garfan (ydych chi’n credu fod cael llai o gyfle i gynrychioli eu gwlad am annog mwy o bobol i chwarae’r gamp?) ac fe fyddai llai o arian ar gael i’r gêm yng Nghymru,” meddai’r wefam, Dragon Soccer.

“Beth y mae gêm y merched ei angen ydi buddsoddiad parhaol a chadarn, o’r gwaelod i fyny. Mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn rhedeg cyfres o raglenni i ferched yr haf hwn ac mae’n wych i weld.

Ateb y Ceidwadwyr

Wrth ymateb i’r blog, dywedodd llefarydd ar ran Ceidwadwyr Cymru, “Beth ydym yn ei drafod yma ydy carfan merched Prydain yn cymryd rhan yn y Gêmau Olympaidd –nid diwedd ar dîm pêl-droed Cymru ar wahân. Mae’n nonsens i awgrymu yn wahanol.”

“Y cwbl yr ydym eisiau ei weld ydi Prydeinwyr yn cystadlu gyda’i gilydd ar lefel Olympaidd, unwaith bob pedair blynedd, fel y mewn cannoedd o gampau eraill.

“Fe gollwyd cyfle yma, ac fe ddylid dod i gytundeb tymor hir ar y mater er mwyn sicrhau nad yw’n digwydd eto.”