Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau fod swyddogion wedi’u hanfon i ymateb i adroddiadau o ladrad arfog ar Heol Albany yn y brifddinas.
Fe gafodd plismyn eu galw ddechrau’r pnawn i ddigwyddiad ym manc Halifax, Caerdydd.
Mae ynchwiliad yr heddlu’n parhau, ac mae nifer o bobol wedi’u harestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad, meddai datganiad gan yr heddlu.