Nicholas Williams (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae pêl-droediwr amatur o Wrecsam wedi cael ei ddedfrydu i 12 mis o garchar, wedi iddo dorri coes chwaraewr arall gyda thacl anghyfreithlon.

Fe gafwyd Nicholas Williams, 26, o Acrefair yn euog o achosi niwed corfforol difrifol gan reithgor yn Llys y Goron Caernarfon. Fe ddigwyddodd y drosedd yn ystod gêm rhwng Cefn Albion a Brynford fis Hydref diwetha’.

Roedd Nicholas Williams wedi mynnu mai damwain oedd hi, ac mai tacl hwyr oedd i gyfri’ am hynny.

Ond fe alwodd y barnwr y digwyddiad yn “ymosodiad budur” gan ddweud fod y dioddefwr, Andrew Barlow, wedi torri asgwrn ei goes, ac yn dal i dderbyn triniaeth.