Garej betrol ar dân yn Milwaukee (Llun: PA)
Mae Cymro Cymraeg sy’n byw yn Milwaukee wedi dweud wrth golwg360 fod pethau wedi tawelu yn y ddinas yn dilyn cyfnod o brotestiadau dros y penwythnos, ond bod y “nerfusrwydd” yn parhau.

Mae Trefor Williams yn Gyfarwyddwr Cerddorol cwmni perfformio Milwaukee Metro Voices, ac wedi byw yn y ddinas yn nhalaith Wisconsin ers deunaw o flynyddoedd.

Mae’n byw gwta dair milltir i ffwrdd o’r fan lle cafodd dyn du 23 oed ei saethu’n farw gan yr heddlu nos Sadwrn diwetha’, yn dilyn adroddiadau ei fod wedi gwrthod ildio ei wn.

Mae hyn wedi sbarduno protestiadau chwerw gan grwpiau fel Black Lives Matter yn dilyn achosion tebyg o drais gan yr heddlu yn erbyn pobol ddu yn yr Unol Daleithiau yn ddiweddar.

‘Dinas ranedig’

“Mi gafodd y gŵr ifanc ei saethu nos Sadwrn, ond mae’r achos yn cynrychioli rhywbeth llawer mwy na hynny,” meddai Trefor Williams.

“Mae ’na deimlad ymysg pobol ddu eu bod yn cael eu rhoi i lawr o hyd oherwydd lliw eu croen, ac mae hynny’n gyffredin ar draws yr Unol Daleithiau.

“Mae Milwaukee yn un o’r dinasoedd mwyaf rhanedig o ran hil, ac mae ’na dlodi a diffyg addysg anferthol yma, a dydy’r sefyllfa boliticaidd ar hyn o bryd ddim yn help i leddfu’r rhaniadau,” meddai.

‘Sefyllfa gymhleth’

Esboniodd Trefor Williams fod Maer y ddinas wedi gosod cyrffyw deg o’r gloch neithiwr i wahardd plant o dan ddeunaw rhag bod ar y strydoedd.

“Mae wedi distewi yma heddiw, ond mae’r nerfusrwydd i’w deimlo’n gryf,” meddai gan esbonio fod llawer o adeiladu’r ddinas wedi’u difrodi yn dilyn y protestiadau a fu ar eu hanterth nos Sul.

“Mi aeth pobol yn wallgof gan ddechrau llosgi ceir, gorsaf betrol, siopau a llawer o adeiladau.”

Dywedodd fod digwyddiadau’r ddinas dros y dyddiau diwethaf yn cynrychioli llawer o bethau am sefyllfa America yn gyffredinol, a’i fod yn tanio trafodaeth am y pwnc o wahardd gynnau.

Esboniodd y byddai ef am weld y gwaharddiad yn cael ei weithredu, ond ei fod yn gweld hi’n anodd rhagweld hynny.

“Mae’n sefyllfa gymhleth ac mae America yn byw rhyw 150 o flynyddoedd ar eu hôl hi gyda’r hawl i gario arfau yn rhan o’u cyfansoddiad nhw,” meddai.

“Mae llawer yn gweld achosion fel hyn yn fwy o reswm i gario gynnau na’u gwaredu nhw, am eu bod am amddiffyn eu hunain.”