Fydd caer Napoleonaidd ger Dinbych-y-Pysgod ddim yn cael ei throi’n atyniad twristiaid, wedi’r cwbwl.

Fe fydd Ynys Catrin yn cau ychydig dros flwyddyn ers iddi groesawu ymwelwyr am y tro cynta’ ers tua 30 mlynedd ym mis Mai y llynedd.

Roedd Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi cymeradwyo cynlluniau i adfer y gaer ar yr ynys, agor siopau a bwytai a chreu dau fan glanio newydd i gychod.

Ond, mae’r cynllun bellach wedi’i roi o’r neilltu oherwydd “dyfodol ansicr.”

“Cau ei gatiau”

Mae neges ar dudalen Facebook Prosiect Tîm Ynys Dinbych-y-Pysgod yn nodi, “dyw hyn ddim yn rhywbeth y gallem fod wedi’i ragweld yn y bum mlynedd ddiwethaf o weithio tuag at ryddhau potensial yr ynys.”

“Mae bellach wedi’i gadarnhau y bydd yr ynys a’r gaer unwaith eto yn cau ei gatiau i’r cyhoedd am ei fod, yn anffodus, yn wynebu dyfodol ansicr.”

Bydd yr Ynys ar agor i’r cyhoedd am y tro diwetha’ ar ddydd Sadwrn Gŵyl y Banc, Awst 27.

Cynllunio

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Benfro fod yr ynys yn disgyn o dan awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro o ran materion cynllunio.

Ond, ychwanegodd, “yn ystod y blynyddoedd diweddar, yn anffodus, dyw’r ynys erioed wedi ymddangos i gyfawni ei photensial fel atyniaid i dwristiaid.”