Wythnos wedi i gyfranddalwyr Cymdeithas Dai Cantref bleidleisio bron yn unfrydol o blaid uno â Chymdeithas Tai Cymru a’r Gorllewin, mae grwp pobol ifanc lleol yn galw arnyn nhw i newid eu meddwl.

Mae pryder yn lleol y byddai’r cam yn cael “effaith andwyol” ar denantiaid lleol.

A nawr, mae ‘Ble Ti’n Mynd i Fyw?’ yn pwysleisio bod ail gyfle i atal yr uno mewn cyfarfod cyfranddalwyr nos Fawrth, 23 Awst.

Cafodd y bleidlais ei chynnal yng Nghastell Newydd Emlyn, lle cefnogodd 27 allan o 30 o bobol y cynnig. Roedd angen 75% o’r pleidleiswyr i gefnogi’r cynnig er mwyn i’r cynllun fynd rhagddo.

Pryderon

Ymhlith pryderon ‘Ble Ti’n Mynd i Fyw?’ y mae pwyslais y gymdeithas fawr, newydd, ar swyddi lleol, ac maen nhw hefyd yn pryderu bod diffyg ymgynghori wedi bod gyda thenantiaid, cyfranddalwyr, rhanddeiliaid a’r cyhoedd, na dealltwriaeth o werth y Gymraeg.

Ychwanegodd ‘Ble Ti’n Mynd i Fyw?’ bod nifer o gyfranddalwyr yn anhapus gyda’r diffyg gwybodaeth o flaen llaw, ac wedi codi pryderon am hyn a’r diffyg ymgynghori yn y cyfarfod wythnos diwethaf.

“Mae pryder difrifol mewn perthynas â’r diffygion hyn, yn enwedig o ystyried y broses uno arfaethedig hyd yn hyn,” meddai datganiad gan y grwp.

“Mae nifer o bobl wedi sôn wrth grŵp ‘Ble Ti’n Mynd i Fyw?’ am y bygythiad i swyddi a gwaith lleol a’r diffyg llwyr o ymwybyddiaeth iaith a amlygwyd trwy gynnal cyfarfodydd yn uniaith Saesneg.

“Pwysleisiwn fod gan gyfranddalwyr Cantref ail gyfle i wrthod yr uno arfaethedig hyn, ac i osgoi traflynciad ased dai lleol gan y cawr yma o’r brifddinas sydd yn dangos dim dealltwriaeth na gwerthfawrogiad o anghenion lleol.”

‘Dyfodol newydd’

Roedd Cymdeithas Iaith Cantref yn “falch” bod cyfranddalwyr wedi pleidleisio o blaid uno gyda Thai Cymru a’r Gorllewin (Wales and the West) yr wythnos diwethaf gan ychwanegu bod y penderfyniad yn “cynrychioli cychwyn dyfodol newydd cyffrous a chadarnhaol i wasanaethau tai yn y rhanbarth.”

Meddai Kevin Taylor, cadeirydd dros dro Cantref: “Ein tenantiaid yw’n blaenoriaeth bennaf a bydd y broses uno hon yn sicrhau eu bod yn parhau i gael y gwasanaeth gorau ag y bo modd, a bod modd i wasanaethau tai barhau i dyfu a datblygu.

“Mae gan gymdeithas Tai Cymru a’r Gorllewin hanes o lwyddo, yn enwedig ym maes bodlonrwydd preswylwyr ac ymgysylltu gyda phreswylwyr, ac mae wedi ymrwymo i’r gwaith o ddiogelu ethos Cantref o gynnal ffocws rhanbarthol a lleol.

“Mae’n awyddus i gefnogi busnesau lleol ble bynnag y bo modd, ac mae’n bwysig nodi y bydd yn sicrhau bod y staff cyfredol yn cael cyfleoedd i ddatblygu ac i dyfu o fewn y sefydliad. Yn ogystal, mae’n cydnabod pwysigrwydd agweddau diwylliannol ar fusnes Cantref, megis y defnydd parhaus o’r iaith Gymraeg a chefnogaeth iddi. “Edrychwn ymlaen i’r dyfodol yn hyderus ac rydym yn awyddus i ddechrau gweithio gyda thîm Tai Cymru a’r Gorllewin.”

Mae Cantref yn rhentu tai fforddiadwy i bron i 1,500 o denantiaid yng Ngheredigion, Penfro, Powys a Sir Gâr.

Mae Chymdeithas Tai Cymru a’r Gorllewin yn rheoli dros 9,500 o dai mewn 12 awdurdod lleol yng Nghymru.