Mae deg o feicwyr yn cael eu trin am anafiadau heddiw yn dilyn gwrthdrawiad yng ngogledd Ceredigion brynhawn ddoe.

Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, fe wnaeth grŵp o ddeg o seiclwyr wrthdaro i’w gilydd ar ffordd y B4340 rhwng Aberystwyth a’r Gors tua 12.26pm dydd Sul, Awst 14.

Cawsant eu cludo i ysbyty Bronglais Aberystwyth, ac ysbyty Treforys Abertawe – rhai yn dioddef o fân anafiadau ac eraill yn dioddef o anafiadau mwy difrifol.

Ond, does dim lle i gredu fod bywydau yr un ohonyn nhw mewn perygl.