Costa Coffi Caernarfon
Bythefnos ers i golwg360 ofyn am ymateb gan Costa i’r cwynion am ddiffyg arwyddion Cymraeg mewn siop newydd yng Nghaernarfon, mae’r cwmni coffi wedi cysylltu gydag ymateb.

Dywedodd llefarydd: “Nid ydym ar hyn o bryd yn darparu bwydlenni dwyieithog yn ein siopau, ond ein bod yn darparu amseroedd agor yn Gymraeg ac arwyddion ‘Dim Ysmygu’ yn Gymraeg.

“Yn ogystal â hyn, mae ein staff yn gwisgo bathodynnau oren, sy’n dynodi eu bod yn siarad Cymraeg a Saesneg ac fe allent gyfieithu bwydlen os oes angen.“

Fe agorodd y siop ei drysau yng Nghaernarfon ddiwedd mis Gorffennaf, ac fe wnaeth ymgyrchwyr iaith honni fod agwedd y cwmni yn “gywilyddus” tuag at y Gymraeg, am nad oedd pob arwydd yn ddwyieithog mewn ardal ble roedd bron i 90% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg.

Dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod am gysylltu gyda Costa i godi’r mater – er nad oes ganddyn nhw’r hawl i orfodi unrhyw fusnes i ddangos arwyddion dwyieithog.