Y ddau ymgeisydd - Jeremy Corbyn ac Owen Smith (Llun: PA)
Mae Owen Smith wedi dweud na fyddai’n fodlon bod yng nghabinet y Blaid Lafur pe bai Jeremy Corbyn yn arweinydd unwaith eto.

Fe gafodd Aelod Seneddol Pontypridd ei wawdio gan ran fawr o’r dorf mewn cyfarfod yn Gateshead wrth iddo gyhuddo’r arweinydd Llafur o golli ffydd ei gydweithwyr.

Fe ddywedodd y byddai’n well ganddo wasanaethu’r Blaid Lafur o’r meinciau cefn pe bai Jeremy Corbyn yn ei guro yn yr etholiad am yr arweinyddiaeth.

Cabinet

“Fe fyddwn i’n dechrau trwy wneud rhywbeth na all Jeremy ei wneud,” meddai Owen Smith yn y cyfarfod hystings yng ngogledd-ddwyrain Lloegr. “Fyddwn i’n rhoi cabinet cysgodol at ei gilydd o holl dalentau’r Blaid Lafur.”

Fe ddywedodd Jeremy Corbyn ei fod yn siomedig pan ymddiswyddodd Owen Smith o’r fainc flaen ym mis Mehefin ac yn siomedig na fyddai’n fodlon ailymuno â’r cabinet cysgodol.

Fe fydd heddiw’n ddiwrnod pwysig yn y ras, wrth i’r Llys Apêl benderfynu a fydd gan tua 130,000 o aelodau newydd hawl i bleidleisio – y gred yw y byddai’r rhan fwya’ o’r rheiny o blaid Jeremy Corbyn.