Mae undeb GMB wedi disgrifio buddugoliaeth gyfreithiol i gynrychioli gweithwyr yr archfarchnad Lidl fel “carreg filltir”.

Dywedodd y GMB ei fod wedi bod yn llwyddiannus mewn ymgais i herio penderfyniad yr archfarchnad i rwystro gweithwyr eu warws ym Mhen-y-bont ar Ogwr rhag cael eu cynrychioli.

Yn dilyn dyfarniad gan y Pwyllgor Cyflafareddu Canolog, galwodd y GMB am bleidlais o’r gweithwyr er mwyn gweld os ydynt am i’r undeb gael ei gydnabod yn ffurfiol ar gyfer cydfargeinio.

Dywedodd Justin Bowden o’r GMB y byddai’r dyfarniad nid yn unig yn arwain at wella cyflog a thelerau gweithwyr yn ogystal â’r amodau gwaith ar y safle ym Mhen-y-bont, ond ei fod hefyd yn fuddugoliaeth fawr i ymgyrch y GMB ar gyfer llais undebau llafur yn y gweithle.

Meddai Justin Bowden: “Mae’r awgrym nad oes angen yr opsiwn o undeb llafur ar weithwyr Lidl i amddiffyn eu hawliau ac yn ymladd dros eu buddiannau yn hurt bost.

“O ganlyniad i’r dyfarniad heddiw, bydd gweithwyr yn cael y cyfle i benderfynu drostynt eu hunain os yw llinell ffôn personél y cwmni ei hun yn unrhyw gymhariaeth i undeb annibynnol sy’n cymryd eu hochr ac yn amddiffyn eu buddiannau yn y gweithle.”