Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn damwain ar briffordd yr A499 yng Ngwynedd nos Fercher.

Fe gafodd swyddogion eu galw i’r gwrthdrawiad rhwng bws mini a char ger Pwllheli toc wedi 10yh. Fe gafodd gyrwraig y bws mini Ford Transit ei chludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor, ynghyd â gyrrwr y car Saab.

Erbyn heddiw, mae’r ffordd wedi ail-agor, ac mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu gyda nhw ar y rhif, 101.