Mae Heddlu De Cymru wedi arestio deg o bobol mewn perthynas â honiadau o geisio trefnu canlyniad gêm Uwch Gynghrair Cymru yn ymwneud â Chlwb Pêl-droed Tref Port Talbot.

Mae saith dyn a thair dynes wedi’u dwyn i’r ddalfa ar amheuaeth o gynllwynio i dwyllo. Mae’r ymchwiliad gan Uned Troseddau Economaidd y lle, yn parhau.

Fe ddechreuodd Heddlu De Cymru ymchwilio ar ôl derbyn gwybodaeth gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ac Uned Wybodaeth Betio y Comisiwn Gamblo am batrymau hapchwarae ar y gêm rhwng Port Talbot a’r Rhyl a chwaraewyd Ebrill 9, 2016.

“Mae’r datblygiadau heddiw yn ganlyniad i’r broses drwyadl o hel gwybodaeth sydd wedi digwydd, a’r cydweithio rhwng y Gymdeithas Bêl-droed, Heddlu De Cymru a’r Comisiwn Gamblo,” meddai Jonathan Ford, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Fydd y Gymdeithas ddim yn cosbi neb tra bod ymchwiliad yr heddlu yn parhau.”