Mae Heddlu Gwent yn apelio am gymorth er mwyn ceisio dod o hyd i ddyn y maen nhw’n bryderus yn ei gylch.

Does neb wedi gweld y dyn croenwyn, 5 troedfedd 10 modfedd o daldra, gyda gwallt tywyll, ers dydd Gwener diwetha’, Awst 5. Bryd hynny, roedd yn ardal Rhisga ac yn gwisgo trowsus golau a thop glas tywyll.

Dylai unrhyw un sy’n ei adnabod, neu’n gwybod lle mae o ffonio’r heddlu ar y rhif 101.