Mae dyn 38 oed wedi’i ganfod yn farw mewn llyfrgell gyhoeddus yng Nghaerdydd.

Fe gafodd yr heddlu a’r gwasanaethau brys eu galw i Lyfrgell Pen-y-lan yn y brifddinas, wedi i aelod o staff ddod o hyd i’r corff yn un o’r toiledau.

Y gred ydi fod y dyn eisoes wedi marw cyn i neb ei ffeindio.

Ar hyn o bryd, dydi’r farwolaeth ddim yn cael ei thrin fel un amheus, ac mae Heddlu De Cymru yn dal i ymchwilio er mwyn paratoi ffeil ar gyfer y crwner.