Will Gompertz ar y Maes.
Ar ôl treulio wythnos yn Y Fenni yn ymweld ac yn gohebu o’r Eisteddfod Genedlaethol, mae Prif Olygydd Celfyddydau’r BBC am weld y Brifwyl yn mynd i Lundain.

“Byddwn i wrth fy modd yn gweld yr Eisteddfod yn Hyde Park,” meddai Will Gompertz sydd wedi paratoi eitem am y Brifwyl i’w dangos heno ar brif raglen newyddion y BBC am chwech.

Cyfeiriodd at y ffaith fod yr Eisteddfod yn arfer teithio dros y ffin, a dywedodd y dylai’r Eisteddfod ystyried gwneud hynny eto er mwyn lledaenu ei chenhadaeth dros y diwylliant Cymraeg.

“Mae’n rhyfedd nad yw pobl yn gwybod gymaint sydd gan yr Eisteddfod i’w gynnig o ran celf, llenyddiaeth a theatr – a rhaid gofyn pam,” meddai Will Gompertz.

“Dyw’r Eisteddfod ddim yn gyfrinach, mae’n mynd nôl cannoedd o flynyddoedd, a’r cwestiwn rwy’n gofyn ydy: a yw’r Eisteddfod yn ynysu neu’n cydweithredu?”

Awgrymodd Prif Olygydd Celfyddydau’r BBC y dylai’r Eisteddfod ystyried mynd i Lundain fel “arbrawf”.

“Peidiwch â’i gadw yn gyfrinach. Byddai’n gyfle i bawb flasu bwrlwm yr Eisteddfod a byddai’r ymateb yn wych rwy’n siŵr,” meddai.

“Mae’r un peth yn wir am lwyddiant y tîm pêl-droed cenedlaethol – o’i roi allan ar lwyfan y byd, mae’r byd yn ei gymeradwyo.”

Y Gymraeg yn Y Fenni

Bydd rhaglen ddogfen gan Will Gompertz y mis hwn ar y BBC yn archwilio can mlynedd a mwy ers i’r Eisteddfod Genedlaethol ymweld â’r Fenni ddiwethaf.

Dywedodd ei fod wedi holi pobl leol os ydy ymweliad y Brifwyl â’r ardal wedi dylanwadu arnyn nhw i ddysgu’r Gymraeg.

Ac er nad oedd Will Gompertz erioed wedi bod i Eisteddfod ei hun o’r blaen, dywedodd fod y profiad wedi bod yn “agoriad llygad”.

“Roeddwn i wedi fy rhybuddio y gallai fod ychydig yn anghyfeillgar os nad ydych chi’n siarad Cymraeg. Ond rhaid i mi ddweud fod fy mhrofiad i yn llwyr i’r gwrthwyneb, gyda phawb yn garedig iawn ac yn fy ngwahodd i gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau.”

Bydd rhaglen ddogfen Will Gompertz am yr Eisteddfod i’w gweld ar BBC Two Wales am 9.30 yr hwyr ar Awst 13 ac yna ar BBC 4 ar Awst 24.

Stori: Megan Lewis