Mae cais cynllunio i godi dros 150 o dai ar dir parc busnes ger Abergele wedi codi pryderon ymhlith trigolion lleol.
Os bydd cais cwmni MacBryde Homes yn llwyddiannus, gallai 158 o dai gael eu hadeiladu ar y parc busnes.
Prin yw’r busnesau sydd wedi ymgartrefu ar y safle rhwng Abergele a Llanddulas, oedd i fod i gael ei droi’n barc gwyddoniaeth ar un adeg.
Gallai’r 158 o dai ddenu 600 o bobol i fyw yn y datblygiad newydd, ac mae hynny wedi ysgogi cwestiynau tros allu’r dref i ymdopi.
Mae pryderon am greu traffig trwm, lleoedd mewn ysgolion a meddygfeydd ac effaith y datblygiad ar yr iaith Gymraeg yn lleol, yn ôl un cynghorydd lleol.
“Mae isadeiledd trafnidiaeth y dref yn sicr yn broblem, ac mae ein meddygfeydd a’n hysgolion i gyd yn llawn,” meddai Tim Rowlands.
“Dw i ddim yn meddwl y dylai fod rhagor o ddatblygu yn Abergele, ond mae’n rhaid i ni wneud y gorau o sefyllfa wael.”
Effaith ar y Gymraeg
Dywedodd y Cynghorydd Tim Rowlands fod y datblygiad yn rhan o Gynllun Datblygu Lleol Conwy, fyddai’n golygu “adeiladu 800” o dai yn Abergele, ac o gwmpas y dref, erbyn 2022.
“Mae’n rhaid ystyried hyn o safbwynt diwylliannol hefyd, mae’n gwestiwn o bwy fydd yn dod i fyw yma,” meddai wrth gyfeirio at yr effaith posib ar yr iaith Gymraeg.
“Byddai’r Cynllun Datblygu Lleol yn sicr o gael effaith niweidiol ar yr iaith yma,” ychwanegodd.
Mae’r cais wedi’i gyflwyno i Gyngor Conwy ond does dim dyddiad eto pryd fydd cynghorwyr yn trafod y mater.