Alun Sbardun Huws
Un o gerddorion y band o Gaernarfon, Bwncath, ydy enillydd gwobr newydd er cof am un o gyfansoddwyr caneuon gorau Cymru Alun Sbardun Huws.

Llywelyn Elidyr Glyn o Lanllyfni ydy’r cynta’ erioed i ennill y wobr hon am gyfansoddi cân wreiddiol ac acwstig ei naws.

Yn ôl y beirniaid Bryn Fôn ac Emyr Huws Jones, roedd y gan hon “yn taro o’r gwrandawiad cynta’”.

“Mae’r cyfansoddwr wedi bod yn ddewr ac yn gelfydd i adael i’r alaw orwedd yn ei symlrwydd. Y math o beth y byddai Alun Sbardun Huws wedi ei wneud,” meddai Emyr Huws Jones.

Tlws a gwobr ariannol

Bu farw Alun Sbardun Huws y llynedd yn 66 oed, ac yn ogystal â bod yn un o aelodau gwreiddiol Tebot Piws, roedd wedi cyfansoddi rhai o’r caneuon cyfoes gorau ar gyfer amrywiaeth fawr o artistiaid o Strydoedd Aberstalwm i Bryn Fôn i Paid Mynd i’r Nos i Brigyn.

Bu Llywelyn Elidyr Glyn yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor cyn dod yn Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol, ac mae yntau a’i ffrind Meredydd Wyn Humphreys bellach wedi ffurfio band – Bwncath.

Mae’n derbyn tlws a gwobr ariannol o £500 wedi’i rhoi gan wraig Sbardun, Gwenno Huws.