Fe ddaeth 15,009 o bobol i Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni ddydd Mawrth – ffigwr is na’r tair blynedd ddiwetha’ ond mwy nag yn Y Fro yn 2012 a Glyn Ebwy yn 2010.

Gyda’r cyfanswm bellach am yr wythnos yn 60,877, mae’r ffigwr yn agos iawn at ffigwr Eisteddfod 2010 – a hepgor miloedd o bobol leol a gafodd ddod yno trwy gynnig arbennig ar y dydd Sul.

Gydag addewid am dywydd braf, y cae’n sychu’n dda a’r duedd arferol i dorfeydd gynyddu at ddiwedd yr wythnos, mae gobaith y bydd y torfeydd yn y diwedd yn closio at gyfartaledd y blynyddoedd diwetha’.