Fe fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn trafod sut y byddan nhw’n cyfieithu sylwadau’r cynrychiolwyr Celtaidd ar gyfer y rheiny sy’n gwylio seremoni’r Coroni yn y pafiliwn neu ar deledu gartre’.

Ddoe, ar ddechrau prif seremoni’r dydd, fe fu cynrychiolydd y Mod o’r Alban yn annerch am rai munudau yn yr iaith Gaeleg, heb nag is-deitlau ar gyfer gwylwyr gartre’ nac unrhyw gymorth i Gymry Cymraeg y pafiliwn ddeall yr hyn yr oedd yn ei ddweud.

Roedd cyfieithiad Cymraeg o sylwadau Alasdai MacCuish ar gael, ac roedd y di-Gymraeg a wisgai glustffonau yn y pafiliwn yn gallu dilyn yn Saesneg… ond doedd dim cyfieithiad Cymraeg. Doedd yna, chwaith, ddim sgriniau o bobtu’r llwyfan i ddangos y geiriau Cymraeg.

Mae golwg360 yn deall mai penderfyniad i arbed arian ydi peidio â gosod sgriniau o bobtu’r llwyfan, ac yn dilyn trafodaeth ar y mater hwn ym Mwrdd yr Orsedd ben bore heddiw, mai’r syniad ydi i rannu taflenni gyda’r geiriau Cymraeg yn seremoni’r flwyddyn nesa’.

Mae gan yr Eisteddfod Genedlaethol rheol iaith sy’n nodi mai dim ond Cymraeg sy’n cael cael ei siarad neu’i ganu yn gyhoeddus ar y maes.